COFNODION DRAFFT y Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr: Problemau Cynllunio a wynebir gan y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr

27 Tachwedd 2013

Ystafell Briffio’r Cyfryngau

Noddwyd gan Julie Morgan AC

 

AGENDA

Cadeirydd: Julie Morgan AC

12:15: Croeso a chyflwyniad - Julie Morgan AC

12:15-12:35: Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

12:35-1:25:Cwestiynau a sylwadau o’r llawr

1:25 Cloi

 

·         Cafwyd croeso a chyflwyniad gan Julie Morgan.

·         Siaradodd Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gydraddoldeb, am y canlynol:

 

o   Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, sy’n ymdrin â materion cynllunio, felly caiff unrhyw faterion eu cyfeirio ato ef. 

o   Teithio at Ddyfodol Gwell - y ddogfen gyntaf o’i bath yn y DU. Mae’r ddogfen yn nodi cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran Sipsiwn a Theithwyr.

o   Mae Bil Tai (Cymru) yn cynnwys dyletswydd gyfreithiol newydd i ddarparu safleoedd pan fydd tystiolaeth amlwg am yr angen amdanynt.

o   Cyfeiriwyd at y sylw digroeso yn y cyfryngau - Ysbyty Brenhinol Gwent.

o   Parthed: addysg – roedd gwelliant sylweddol yn nifer y plant o blith sipsiwn a theithwyr sy’n mynd i’r ysgol, yn arbennig i ysgolion uwchradd. Mae bwlio yn fater allweddol - anogwyd pobl i nodi’r problemau.

o   Mae wedi ymweld ag un o brosiectau Achub y Plant, sef Teithio Ymlaen, a chyfarfu â phlant Sipsiwn a Theithwyr. Mae addysg yn fater pwysig iddynt, a chodwyd y mater o ddelweddau negyddol o Sipsiwn a Theithwyr yn y cyfryngau.

 

·         Cwestiynau a sylwadau o’r llawr

o   Y wybodaeth ddiweddaraf am safle Rover Way. Nid oes dim llwybrau ar hyd ochr y safle ac mae lorïau’n gyrru heibio yn llawer rhy gyflym, sy’n beryglus iawn i famau a babanod sy’n mynd i glinigau. Mae’r broblem yn debygol o waethygu pan fydd y llosgydd ar waith.

o   Beth fydd yn digwydd os na fydd awdurdodau lleol yn cyflawni’r gofyn arnynt i ddarparu safleoedd?

o   Mae adran ar ymgysylltu yn y ddogfen ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’, ond nid oes sefydliad yn cynrychioli Cymru gyfan i gefnogi teuluoedd sy’n Sipsiwn a Theithwyr.

o   Nid yw pobl yn ymwneud digon â’r broses o gynllunio ar gyfer safleoedd; nid ydynt yn gwybod am eu hawliau.

o   Y problemau o ran sefydlu safleoedd preifat ar gyfer unigolion sydd am gael llonydd yn unig i fod ar eu pennau’u hunain, ac nad ydynt am fyw ar safleoedd swyddogol. A ddylai teuluoedd unigol gael eu safleoedd eu hunain – byddent yn llai busnesgar, a gallai pobl integreiddio’n well yn y gymuned leol o bosibl?

o   Asesiad o anghenion yn y Fro.

o   Cymorth Cynllunio Cymru - elusen, sy’n ceisio gwneud y system gynllunio yn haws i’w deall ac yn fwy hygyrch. Gall unrhyw berson alw am gymorth ganddynt. Mae gan y mudiad wirfoddolwyr i helpu pobl. Mae angen gwell addysg a gwell gwybodaeth.

o   Mae tensiynau yn Abertawe a Chasnewydd.

o   Ychydig iawn o Sipsiwn a Theithwyr sydd ar y restr etholiadol, felly nid yw eu llais yn cael ei glywed. Hyd yn oed os ydynt ar y rhestr etholiadol, mae’n bosibl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.

o   Mae llifogydd yn broblem fawr - mae Gwynllwg yn y parth llifogydd.

 

·         Clowyd y cyfarfod gan Julie Morgan AC.